Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
CLA55 - Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed ar: 5 Tachwedd 2011
Fe’u gosodwyd ar: 8 Tachwedd 2011
Yn dod i rym ar: 30 Tachwedd 2011
CLA56 - Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed ar: 6 Tachwedd 2011
Fe’u gosodwyd ar: 9 Tachwedd 2011
Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2012
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi gyda’r Cynulliad o dan
Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
Dim
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
CLA52 - Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’u gwnaed: 2011
Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi
Yn dod i rym ar: 6 Mehefin 2012
CLA53 - Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’i gwnaed ar: Heb ei nodi
Fe’i gosodwyd ar: Heb ei nodi
Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiadau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ar yr offerynnau statudol hyn, sydd i’w cael yn Atodiadau 1 a 2.
Busnes arall
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Undeb Amaethwyr Cymru, a gynrychiolwyd gan Mr Andrew Gurney, Swyddog Polisi (Defnydd Tir), a Mr Gavin Williams, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol yr Undeb, a chan y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, a Dr Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gafwyd hyd yma ar yr Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
21 Tachwedd 2011
Atodiad 1
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-11-11)
CLA52
Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth i gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2 mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau a roddwyd iddynt gan
ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) a’u bwriadwyd i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
O dan Ran 2 o’r Mesur, bydd cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru yn cael cydgysylltydd gofal penodol. Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer y meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gellir penodi person yn gydgysylltydd gofal.
Mae’r Mesur hefyd yn darparu y bydd darparwyr gwasanaethau (Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) yn gweithredu mewn modd cydgysylltiedig i wella effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir i’r claf.
Mae’r Mesur yn sicrhau y bydd pob claf unigol yn cael cynllun gofal a thriniaeth wedi’u teilwra a ddatblygir gan y cydgysylltydd gofal mewn partneriaeth â’r claf a bydd y cydgysylltydd gofal yn goruchwylio’r cynllun gyda golwg ar gyflawni’r canlyniadau y mae’r gwasanaethau i’r claf wedi’u cynllunio ar gyfer eu cyflawni.
Mae’r darpariaethau hyn yn unigryw i Gymru.
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu
gwneud ac felly cânt eu trafod gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
21 Tachwedd 2011
Atodiad 2
Teitl: Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) drwy amnewid y tablau ynghylch yr elfennau ym mharagraffau 5 a 6. Gwneir hyn i gynyddu uchafswm yr ardollau y caniateir eu gosod ar gyfer yr elfennau cynhyrchu a chigydda/ allforio o’r ardoll cig coch.
Materion technegol: craffu
Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2.
1. Gwneir y Gorchymyn hwn drwy ddefnyddio pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 5(4) o’r Mesur, na wnaed gorchymyn cychwyn eto ar ei gyfer. Er y disgwylir y bydd gorchymyn o’r fath yn cael ei wneud cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, nid yw’r pŵer ar gael wrth i’r adroddiad hwn gael ei baratoi. [Rheol Sefydlog 21.2(i) - bod amheuaeth a yw intra vires]
Rhinweddau: craffu
Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
21 Tachwedd 2011